Clwb Golff Glyn-nedd: Adeiladu Momentwm Drwy Fuddsoddiad Deallus a Chynaliadwy

Medi 22

Mae Clwb Golff Glyn-nedd yn parhau i fynd o nerth i nerth. Ar ôl sefydlogi’r Clwb gyda chymorth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, mae’r tîm wedi parhau â’r momentwm — gan ganolbwyntio ar welliannau penodol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelodau, ymwelwyr a’r gymuned ehangach.

Un o’r camau mawr eleni oedd croesawu’r gweithiwr proffesiynol PGA Stuart Wilson i’r Clwb. Mae Stuart wedi gosod stiwdio hyfforddi dan do o’r radd flaenaf ac wedi dod â egni proffesiynol newydd i hyfforddiant a datblygiad chwaraewyr. Mae ei effaith eisoes i’w gweld ledled y Clwb.

Yn ogystal â hyn, mae’r Clwb yn ystyried ac yn ceisio cyllid ar gyfer cyfres o uwchraddiadau, gan gynnwys:

  • Adnewyddu’r bar a’r mannau swyddogaeth er mwyn gwella eu defnydd gan y gymuned
  • Gwella hygyrchedd drwy lwybrau, arwyddion a threfniadau parcio newydd
  • Mynd i’r afael ag ailwynebu’r dreif a’r maes parcio isaf, gwaith sydd wedi bod ei angen ers amser maith

Yn hytrach na mynd ar drywydd un prosiect cyfalaf mawr, mae’r Clwb yn mabwysiadu dull call a graddol — gan gyflawni gwelliannau wrth i gyfleoedd godi, gyda chymorth cyfuniad o grantiau, codi arian mewnol a mwy o sefydlogrwydd ariannol.

Y canlyniad? Clwb sy’n brysurach, yn fwy proffesiynol ac yn fwy uchelgeisiol nag erioed. Mae Clwb Golff Glyn-nedd yn dangos sut y gall buddsoddiad cyson sydd wedi’i gynllunio’n dda drawsnewid cyfleusterau, cryfhau cysylltiadau cymunedol ac adeiladu dyfodol cynaliadwy i golff yn y cwm.

“Mae’r cymorth a ddarparwyd gan PyC wedi chwarae rhan hollbwysig — fe helpodd i greu’r sefydlogrwydd a’r capasiti oedd eu hangen i ddechrau symud y Clwb ymlaen, ac rydym bellach yn gweld manteision hynny.” — Clwb Golff Glyn-nedd

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.