CEFNOGI TWRISTIAETH

DARE VALLEY TROUT FISHERY
Mae perchennog Dare Valley Trout Fishery Neil wedi ymweld â llynnoedd pysgota ledled y DU a gallai weld y potensial enfawr mewn cronfa ddŵr segur ym Mharc Gwledig Cwm Dâr i gynnig rhywbeth gwahanol i bobl sy’n byw gerllaw a thu hwnt. Cysylltodd â PyC am gymorth i ddatblygu’r llyn a’r tir o’i amgylch a derbyniodd fenthyciad o £25,000

AFAN VALLEY BIKE SHED
Sefydlwyd Afan Valley Bike Shed yn 2012, yn masnachu o’u fan mewn cilfan ond tyfodd y busnes yn gyflym ac maent wedi galw’r ganolfan ymwelwyr ym Mharc Coedwig Afan yn gartref ers hynny ac i gystadlu â chanolfannau beicio mynydd mwy, maent wedi treulio 2 flynedd yn datblygu tir segur ar y safle i greu canolfan beicio mynydd bwrpasol, gyda gweithdai ac ystafelloedd dosbarth i drosglwyddo sgiliau i bob oed yn lleol. Roedd PyC yn falch o gefnogi Afan Valley Bike Shed gyda benthyciad hyblyg a grant o £36,001 fel cyfraniad at eu prosiect.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.