CROESO I

Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.

Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.

Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.

Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

 

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn cyfnod estynedig o ymgynghori’n lleol. Mae’n darparu ein fframwaith sylfaenol a chaiff ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Rydym yn awyddus i gefnogi arloesedd, datblygu sgiliau a menter, ac yn eiddgar i glywed am eich syniadau chi a’u trafod!

Ardal Budd

 

Ar y cyfan, y cymunedau sy’n gymwys i dderbyn cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Caiff trefi a phentrefi a gynhwysir yn ardal y Gronfa eu rhestru yma. Os ydych yn ansicr ynghylch eich cymhwysedd, cysylltwch â ni.  Mae modd i ymgeiswyr fod wedi eu lleoli y tu allan i’r ardal, ond rhaid i’r weithgaredd neu’r prosiect fod ynghlwm â’r ardal, a bod o fudd i gymunedau oddi mewn iddi.

Lawrlwythiadau

 

Mae modd nifer fawr o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalen Lawrlwythiadau a’n tudalen Canllawiau a Chysylltiadau – megis nodiadau arweiniol, fersiwn hawdd-ei-ddarllen o’n Prosbectws, manylion dyfarniadau grant, achosion achos, ein polisïau, a dyddiadau ein sesiynau apwyntiad.

Dolenni Cyflym

  • @Cael eich ysbrydoli

Er mwyn cael eich ysbrydoli, darllenwch yr astudiaethau achos a’r hanesion am y grwpiau, y busnesau a’r gweithgareddau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol.

Gweld ein Hastudiaethau Achos

  • @Digwyddiadau i Ddod, a’r Newyddion Diweddaraf

Daliwch lan gyda digwyddiadau diweddaraf Pen y Cymoedd CBC, a cael yr wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf!

Gweld y Diweddaraf

  • @Gwneud cais am Gymorth Ariannol

Dysgwch fwy am y Gronfa, a lawrlwytho ffurflen gais am grant. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais gorffenedig drwy’r wefan hon!

Cliciwch yma i wneud cais

Y Diweddaraf o Ben y Cymoedd

Dewch i weld beth sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda Chronfa Gymunedol Pen y Cymoedd – y newyddion diweddaraf, uchafbwyntiau’r prosiectau, a straeon o lwyddiant o wahanol rannau o Gymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Dewch i weld sut mae syniadau lleol yn creu effaith wirioneddol yn ein cymunedau.

Rydym wrth ein bodd yn rhannu’r wybodaeth bod The Fern Partnership wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd i brynu a gosod sgrin farchnata ddigidol (tua 1.5m x 2.5m) o fewn tir yr Hwb.
The Fern Partnership

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cefnogi 4 o weithdai hynod ddefnyddiol ar gyfer grwpiau cymunedol a sefydliadau. Cynhelir y gweithdai hyn ar 11 a 18 Tachwedd yn Cynon Linc.

Cranfield Trust

Diolch o galon i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am ein grant a ddefnyddiwyd i brynu cit ac offer newydd. Mae pawb yn y clwb yn werthfawrogol iawn.
AFC Oak