Cap y Gymuned Community Hub at Capcoch

Wedi’i leoli ar dir Ysgol Capcoch.

Byddant yn rhedeg pantri bwyd, gwisg ysgol wedi’i ailgylchu a bydd siop cyfnewid dillad ar agor bob dydd i rieni, preswylwyr a’r cymunedau cyfagos.

Byddant hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi a chyrsiau ac yn gyffrous i ddarparu’r rhain i’r gymuned yn eu hardal leol.

Byddant yn gwahodd asiantaethau a gwasanaethau Cyngor ar Bopeth, iechyd, gwaith a sgiliau i gynnal sesiynau cynghori rheolaidd.

Byddant hefyd yn darparu nwyddau hylendid a mislif am ddim i’r rhai mewn angen gan fanc hylendid Aberdâr.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.