Buddsoddi mewn Effaith: Adeiladu Elusennau Cryfach yn RhCT a thu hwnt

Fel rhan o’n hymrwymiad i gryfhau’r sector gwirfoddol yng Nghymoedd De Cymru, rydym wedi bod yn falch o gefnogi rhaglen tair blynedd sy’n helpu elusennau bach a CICs ar draws Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, a Phen-y-bont ar Ogwr i ddod yn fwy gwydn a chynaliadwy.

Nawr ar ddiwedd Blwyddyn 2, mae’r rhaglen – a ddarperir gan Cranfield Trust – wedi darparu ymgynghoriaeth, mentora a chefnogaeth strategol wedi’i deilwra i dros 20 o sefydliadau, gan gynnwys:

  1. Hot Jam Music CIC (Aberdâr) – cynllunio busnes a chanllawiau ariannol
  2. INFORM Cwm Taf Morgannwg (Aberdâr) – cynllunio strategol a mentora arweinyddiaeth
  3. Canolfan Gymunedol Penderyn – datblygu llywodraethu a chynllunio olyniaeth

Mae sefydliadau yn adrodd yn gyson am lefelau uchel o foddhad a dysgu, ac mae llawer eisoes wedi cymryd camau mawr ymlaen yn eu teithiau cynaliadwyedd.

Yn bwysig, mae mewnwelediadau a gasglwyd o’r gwaith hwn hefyd wedi tynnu sylw at heriau allweddol ar draws y sector:

  1. Diffyg gallu i gynllunio’n hirdymor
  2. Dibyniaeth drwm ar grantiau
  3. Bylchau mewn hyder digidol ac ariannol

Mewn ymateb, bydd y rhaglen yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau dysgu thema mynediad agored ym Mlwyddyn 3, sy’n canolbwyntio ar feysydd lle mae angen y gefnogaeth fwyaf ar sefydliadau lleol:

  1. Codi arian a chynllunio ariannol
  2. Effaith a gwerthuso
  3. Marchnata a brandio
  4. Trawsnewid digidol
Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.