ASTUDIAETH ACHOS CRONFA MICRO

AFC Aberaman

Roedd AFC Aberaman yn derbyn grant Cronfa micro o £2,297.25 i gefnogi hyfforddiant haf a pheth offer a chyfarpar. Roedd ganddynt ddwy flynedd anodd ac roedd ganddynt gynllun clir i gynnig hyfforddiant y tu allan i’r tymor ac offer a chyfarpar newydd i sicrhau bod chwaraewyr a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan ac yn dechrau datblygu eu cynaliadwyedd.

Rydyn ni wedi datblygu ein sgiliau ffitrwydd a chwarae corfforol a meddyliol drwy’r gemau hyfforddiant ychwanegol cyn y tymor a ddarparwyd a’r sesiynau hyfforddi 3g canol-wythnos ychwanegol a gyllidwyd gan y grant. Mae gennym hefyd Bwyllgor llawer cryfach sydd wedi parhau’n gadarnhaol drwy gydol yr heriau niferus a gyflwynwyd yn ystod tymor anodd a cythryblus.

Rydym wedi cadw ein tîm o chwaraewyr ifanc, brwd ac ymroddgar. Rydym hefyd wedi denu mwy o chwaraewyr newydd i’r tîm ac erbyn hyn mae gennym sylfaen o lawer mwy o gefnogwyr. Byddwn yn mynd i mewn i dymor 2020/21 o sefyllfa ariannol lawer gwell.

Yn anffodus iawn, collwyd un o’n chwaraewyr a lofnodwyd yn flaenorol a fu farw mewn damwain ac mae’n amlwg i’r sioc enfawr hon effeithio ar bob un o’n bechgyn, ein Pwyllgor, a’n cefnogwyr. Fel teyrnged, cawsom ein topiau a’n topiau hyfforddi tymor diwethaf yn cael eu haddurno â’i enw a bydd ganddynt gêm arbennig o gyfeillgar i’r Cofis ychydig cyn i’r tymor newydd ddechrau. Wrth symud ymlaen, mae’r chwilio ymlaen am ail gôl-geidwad ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y tymor 2020/21 sydd i ddod-#UpTheAmbers2020. “

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.