Astudiaeth Achos – £2,750 wedi’i ddyfarnu i fusnes hyfforddi lleol BPI Consultancy.

Yr adeg hon y llynedd fe wnaethom ariannu busnes BPI Consultancy o Gynon.

Maent wedi bod yn darparu hyfforddiant busnes i fusnes o ansawdd uchel ers dros 30 mlynedd ac wedi cysylltu â’r gronfa wrth iddynt fod eisiau buddsoddi yn eu staff a’u huwchsgilio i ddechrau darparu hyfforddiant IEMA (Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol).

Yn hytrach na gorfod talu ymgynghorwyr allanol pe baent yn gallu hyfforddi a chymhwyso eu staff eu hunain, gallent gynnig y cymhwyster hanfodol hwn ar draws De Cymru a chryfhau eu safle fel darparwr hyfforddiant.

  • Dyfarnodd y gronfa £2,750 ac roeddent yn cyfateb i’r un swm.
  • Maent bellach wedi cwblhau hyfforddiant ac achrediad ac maent yn cyflwyno’r hyfforddiant yn rheolaidd.

“I ni fel cronfa roedd hwn yn gyfle i gefnogi busnes i uwchsgilio eu staff a dod yn fwy gwydn ond hefyd i gael cyfle i hyfforddi IEMA yn lleol ac rydym wrth ein bodd o weld faint o fusnesau sy’n gweithio eu ffordd tuag at ddod yn fwy cynaliadwy ar ôl cwblhau’r cwrs hwn” – Kate Breeze, Pen y Cymoedd

“Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd am eu cefnogaeth, gan ein galluogi i gynnig hyfforddiant IEMA a chyfrannu at gynaliadwyedd yn Ne Cymru. Mae’r grant hwn nid yn unig wedi gwella ein galluoedd ond hefyd wedi cryfhau ein hymrwymiad i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf. Rydym yn gyffrous i barhau i gael effaith gadarnhaol gyda’n gilydd.”- Mark Adams, BPI Consultancy

https://www.business-live.co.uk/professional-services/consultancies/valleys-training-consultancy-bpi-looking-27326188

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.