£46,673 wedi’i ddyfarnu i adfer afonydd ac ailgysylltu cymunedau yng Nghwm Afan
Rydym yn falch iawn o ddyfarnu £46,673.48 i Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ar gyfer eu prosiect Adferwyr Afonydd y Cymoedd.
Ers cenedlaethau, mae afonydd wedi bod wrth galon cymunedau yng Nghwm Afan Uchaf, gan gefnogi’r gymuned leol, ffermio, bywyd gwyllt a llesiant. Ond dros amser mae’r cysylltiadau wedi gwanhau, tra bod yr afonydd eu hunain yn wynebu pwysau cynyddol.
Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag ailgysylltu pobl â’u hafonydd a chefnogi cymunedau i weithredu lle mae hynny’n bwysicaf, mewn ffyrdd sy’n bwysig iddynt hwy.
Beth fydd yn digwydd?
- Digwyddiadau cymunedol, gweithdai a theithiau cerdded ar hyd yr afon ar gyfer pob oedran
- Gweithgareddau ymarferol fel codi ymwybyddiaeth o lygredd, monitro bywyd gwyllt a chael gwared ar rywogaethau goresgynnol
- Rhaglen adfer afonydd, gan gynnwys gwelliannau i gynefinoedd, plannu brodorol, a chreu mannau i fywyd gwyllt fel dyfrgwn ac amffibiaid
- Gwell mynediad fel y gall mwy o bobl fwynhau afonydd lleol a mannau gwyrdd
- Bydd cynefinoedd afonydd yn cael eu hadfer a bioamrywiaeth yn cael ei hybu
- Bydd pobl leol yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau i ddiogelu eu hamgylchedd yn y tymor hir
Drwy gyfuno gweithredu ymarferol ag addysg a gwirfoddoli, bydd y prosiect yn gadael etifeddiaeth barhaol—gan gefnogi afonydd iachach a chymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.
“Rydym yn gyffrous iawn am y cyfle hwn i ailgysylltu cymunedau lleol â’u hafonydd ac, yn y broses, gwneud gwahaniaeth parhaol i fioamrywiaeth Cwm Afan hardd.” — Tiff Dew, Swyddog Afonydd Cymunedol, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwaith hwn yn ei chael ledled Cwm Afan a thu hwnt.