£19,408 wedi’i ddyfarnu i gefnogi gwelliannau i Wyrdd Pentref Hirwaun

Mehefin 30

Rydym yn falch o gyhoeddi dyfarniad o £19,408 tuag at waith gwella a gweithgareddau cymunedol ar Wyrdd Pentref Hirwaun.

Bydd y cyllid yn cefnogi gwell mynediad, arwyddion, byrddau gwybodaeth, a gweithgareddau cynnal a chadw parhaus ar y Gwyrdd Pentref. Bydd y prosiect yn helpu i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal, gan annog mwy o ddefnydd cymunedol a gwirfoddoli.

Mae Gwyrdd Pentref Hirwaun yn ased cymunedol unigryw a phwysig. Gan ymestyn dros tua 30 erw ar safle hen Waith Haearn Hirwaun a Gwaith Cerbydau Gloucester, mae’r tir wedi cael ei ddefnyddio gan drigolion lleol ar gyfer hamdden anffurfiol ers bron i 70 mlynedd. Yn 2009, yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus, cafodd y safle ei gofrestru’n llwyddiannus fel gwyrdd pentref, gan ei ddiogelu ar gyfer defnydd cymunedol gan genedlaethau’r dyfodol.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn mewn partneriaeth â grwpiau lleol gan gynnwys Action for Hirwaun a Chymdeithas Hanes Hirwaun. Gyda’i gilydd, byddant yn parhau i wella a chynnal mynediad i’r safle, cefnogi gweithgareddau cynnal a chadw dan arweiniad gwirfoddolwyr, a datblygu byrddau dehongli sy’n tynnu sylw at hanes yr ardal.

Mae’r cyllid yn cydnabod yr ymrwymiad cymunedol cryf a ddangoswyd dros nifer o flynyddoedd drwy weithgareddau megis casglu sbwriel, rheoli llystyfiant, a chlirio llwybrau — pob un yn helpu i warchod a gwella’r man gwyrdd pwysig hwn.

Bydd y prosiect yn sicrhau buddion hirdymor i’r gymuned gyfan drwy wella mynediad hamdden, annog gwirfoddoli, cryfhau ymwybyddiaeth o dreftadaeth leol, a chefnogi diogelu a defnydd parhaus Gwyrdd Pentref Hirwaun.

“Rydym yn falch o adrodd bod gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar welliannau Gwyrdd Pentref Hirwaun. Mae’r llwybrau arfaethedig, gan gynnwys y grisiau i Bwlllyn, bellach wedi’u cwblhau, gan wneud y Gwyrdd Pentref yn llawer mwy hygyrch.

Bydd ail gam y gwelliannau yn cynnwys darparu a lleoli arwyddion a byrddau gwybodaeth y mae mawr eu hangen, gan ddarparu cyfarwyddiadau a gwybodaeth am hanes, prif bwyntiau o ddiddordeb y Gwyrdd Pentref a’r amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid sydd i’w gweld yno.

Mae’r gwelliannau hyn wedi bod yn ganlyniad i gydweithio rhwng nifer o grwpiau pentrefol, sef Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn, Action for Hirwaun a Chymdeithas Hanes Hirwaun, ac wedi’u cefnogi drwy gyllid grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hynny.” Gwyrdd Pentref Hirwaun

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.